About Llygad Diethryn gyda Simon Chandler, yn sgwrsio efo Aled Lewis Evans (Cymraeg)
Sut allwn ni weld ein cenedl, ein diwylliant, ein pobl mewn ffordd newydd, ffres? Mae angen inni edrych trwy lygaid dieithryn. Yn y nofel Llygad Dieithryn, mae Simon Chandler nid yn unig yn adrodd stori ddirgelwch deuluol hudolus dros y degawdau ond hefyd yn ein hannog i edrych ar Gymru mewn ffordd newydd
Mae Simon Chandler yn wreiddiol o Lundain, ond syrthiodd mewn cariad â’r Gymraeg ar ôl iddo ymweld â cheudyllau llechi Llechwedd ger Blaenau Ffestiniog. Mae’n gyfreithiwr yn ei waith bob dydd ac mae wedi llunio cynllun cyfreithiol, Diogelwn, ar gyfer Cymdeithas yr Iaith i warchod enwau Cymraeg ar dai a thir. Yn ogystal, fe gafodd ei nofel gyntaf, Llygad Dieithryn, ei chyhoeddi gan Wasg Carreg Gwalch y llynedd, mae’n golofnydd i gylchgrawn Barddas ac mae ganddo englynion ym mlodeugerddi dwyieithog A470 - Cerddi’r Ffordd a Byways.
Message the event organiser
Questions about this event?
Event Passed
Already have a ticket? Message the event organiser above if you need help.
Where
The Den at The Dragon Hotel
The Dragon Hotel
Market Square
Montgomery,
SY15 6PA