Cath Fenthyg efo Myfanwy Alexander
yn sgwrsio gyda Iola Ynyr
-
Y Den, yng Ngwesty’r Ddraig venue information
Price: £9.00 (£9.74 including fees)
Explore more
This event organiser offers a variety of tickets and events. To view all options and purchase multiple items in one transaction, visit their main page.
About Cath Fenthyg efo Myfanwy Alexander
Mae Cath yn wraig fferm ganol oed, yn fam i ddau o blant yn eu harddegau ac yn ceisio'i gorau i jyglo bywyd bob dydd. Un diwrnod daw ei g?r adref a datgan ei fod yn ei gadael i fynd i fyw at amgylcheddwraig, yr eco-dywysoges, Petal. Mae'n rhaid i Cath ddelio â'r canlyniadau.
Dewch i ddeall pam mae Myfanwy wedi penderfynu i greu stori sy’n gyfuniad o amaethyddiaeth, tor priodas, Gwrthryfel y Pasg 1916, chwant, Clybiau Ffermwyr Ifanc, twf Ffasgiaeth yn yr Eidal, Wotsits a magu teulu, wedi’i hadrodd gyda hiwmor miniog, oll ar gefnlen mwynder Sir Drefaldwyn gyda’i geirfa a’i hacen gynnes, gyfoethog?
Nofel ddoniol, grafog sy'n portreadu bywyd cefn gwlad ar ei orau a'i waethaf.
Magwyd Myfanwy Alexander yng Nghefn Coch yn Sir Drefaldwyn ac ar ôl byw ym mhob cornel o Brydain dychwelodd i fagu chwech o ferched mewn t? to gwellt ger Llanfair Caereinion. Fel sgwennwr a darlledwr mae hi wedi cyfrannu i sawl rhaglen radio a theledu yn cynnwys "Round Britain Quiz" ar BBC Radio 4 a Gwobr Sony am “”The Ll Files. Mae hi wedi cyhoeddi pum nofel dditectif boblogaidd sy’n dilyn helyntion yr Arolygydd Daf Dafis, un o’n sir, ac mae un arall ar y ffordd.
Enillodd Iola Ynyr wobr Llyfr y Flwyddyn 2025 gyda’i chofiant creadigol, Camu. Mae’n hwylusydd creadigol ac yn angerddol dros hyrwyddo llesiant unigolion a chymunedau trwy greadigrwydd wrth gysylltu gyda’r byd naturiol. Mae ei phrosiectau cyfranogol yn cynnwys Ar y dibyn, prosiect gan Theatr Cymru ar gyfer unigolion sydd yn byw gyda dibyniaeth. Bydd yn cyhoeddi llyfr ar hyrwyddo hapusrwydd, Codi Hwyliau, yn 2026 ynghyd â datblygu ei nofel gyntaf.
Message the event organiser
Questions about this event?
Get tickets to Cath Fenthyg efo Myfanwy Alexander
Press the '+' button to add tickets to your order. Once you've selected tickets, checkout from the button that appears in the bottom right of the page.
Where
Y Den, yng Ngwesty’r Ddraig
The Dragon Hotel
Montgomery,
SY15 6PA