Gweledigaeth - Vision
E. Wyn James & Gareth Evans-Jones
-
Gregynog venue information
Price: £10.00 (£10.70 including fees)
About Gweledigaeth - Vision
Dathlu Chwarter Mileniwm Ann Griffiths
Digwyddiad Siaradwyr Gwadd gydag E. Wyn James a Gareth Evans-Jones
E. Wyn James
Mae'r Athro E. Wyn James yn Athro Emeritws ym Mhrifysgol Caerdydd, lle y bu cyn ymddeol yn darlithio ar lên a diwylliant Cymru yn y cyfnod modern ac yn gyd-Gyfarwyddwr Canolfan Uwchefrydiau Cymry America y Brifysgol. Un o'i brif feysydd ymchwil yw canu poblogaidd, gan gynnwys yr emyn, y faled a chaneuon gwerin. Yn y cyd-destun hwnnw y mae wedi cyhoeddi'n helaeth ar fywyd a gwaith yr emynyddes Ann Griffiths, gan gynnwys golygu ei gwaith ar gyfer cyfrol gain gan Wasg Gregynog yn 1998; datblygu Gwefan Ann Griffiths (https://www.anngriffiths.cardiff.ac.uk/) yn 2003; a chyhoeddi'r gyfrol Flame in the Mountains yn 2017, sy'n cynnwys cyfieithiadau Saesneg o emynau a llythyrau Ann gan H. A. Hodges.
Gareth Evans-Jones
Darlithydd mewn Athroniaeth a Chrefydd ym Mhrifysgol Bangor ydy Dr Gareth Evans-Jones. Mae ei waith academaidd a chreadigol wedi'i siapio gan ymrwymiad cryf i addysg, cyfiawnder cymdeithasol, myfyrio moesegol, a rôl crefydd a diwylliant wrth feithrin deialog, heddwch a chyd-ddealltwriaeth o fewn ac ar draws cymunedau. Ochr yn ochr â'i ymchwil, mae Gareth yn awdur toreithiog, ac mae ei waith cyhoeddedig yn cynnwys llenyddiaeth plant, nofelau a drama a'r flodeugerdd LGBTQ+ gyntaf yn Gymraeg.
Ann Griffiths: Celebrating a Quarter Millennium
Speaker Event with E. Wyn James and Gareth Evans-Jones
E. Wyn James
Professor E. Wyn James is Professor Emeritus at Cardiff University, where he lectured until his retirement on the literature and culture of Wales in the modern period. One of his main areas of interest is popular singing, including the hymn, the ballad and folk songs. In this context, he has pubished extensively on the life and work of the hymn-writer Ann Griffiths, including editing her work for a volume by the Gregynog Press in 1998; developing the Ann Griffiths website (https://www.anngriffiths.cardiff.ac.uk/) in 2003, and publishing the volume Flame in the Mountains 2017, which includes English translation of Ann’s hymns and letters by H. A. Hodges.
Gareth Evans-Jones
Dr Gareth Evans Jones is Lecturer in Philosophy and Religion at Bangor University. His academic and creative work is shaped by a strong commitment to education, social justice, ethical reflection, and the role of religion and culture in fostering dialogue, peace, and mutual understanding within and across communities. Alongside his research, Gareth is a prolific author, and his published work includes children’s literature, novels and drama and the first LGBTQ+ anthology in Welsh.
Message the event organiser
Questions about this event?
Event Passed
Already have a ticket? Message the event organiser above if you need help.
Where
Gregynog
Gregynog
Tregynon,
SY16 3PL